Mae Clwb Cymer Ofal wedi rhoi gwasanaeth gwych dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae fy mab wrth ei fodd yn cael mynd ag yn flin pan dwi’n pigo fo fynny yn ‘rhy gynnar’! Mae’r gofal gan oedolion mae’r plant yn adnabod yn barod trwy’r ysgol yn rhoi naws cyfforddus a theuluol i’r plant, ac yn helpu plant i setlo fewn yn gyflym. Mae’r gwasanaeth hefyd yn hanfodol i ni rhieni sydd yn gweithio i wbod bod gofal da yn yr ysgol. Mae’r darpariaeth uniaith Cymraeg yn bwysig iawn i ni fel teulu a does dim opsiwn gwell na Cymer Ofal i sicrhau hyn.
Cymer Ofal provides a first rate after school service managed by diligent, supportive staff. They offer an excellent range of activities; my son has developed a number of new hobbies as a direct result of attending the club. There is a happy sociable atmosphere – the right mix of educational activities and fun.
We really like the variety of resources and activities that are on offer for all ages. Often the activities are theme and topic related e.g. Easter and Mother’s day. The food is healthy and of good quality and we value the physical activities that are on offer e.g. football and the outside area. Staff are helpful and friendly and always ensure any messages are communicated. It’s a luxury having the girls in provision they are familiar with and to be in the company of their friends and also with staff whom they know and respect. Thank you.
I couldn’t be more pleased with the care Cymer Ofal provides for my child. The mix of fun educational activities with the freedom to relax and have much-needed after-school down time is just what I want in after school care. The healthy snacks, lack of electronic entertainment and chance for children to take responsibility for their own needs, through helping prepare the snacks and tidying up, is unique and the reason I chose to send my child to Cymer Ofal, after years of using various other after school care schemes. And he absolutely loves going. I know I’m not the only parent to have been told off by their child for picking them up “too early” from Cymer Ofal. I am so grateful to have such a high quality caregiver on site at Treganna and plan on using their services for years to come. Cymer Ofal is a real asset to Treganna.
I think that the Cymer Ofal club is a huge benefit to the school as a whole. I think that the club has the interests of the children and parents alike at heart. The staff are very approachable and from my personal experience, I can say they go far beyond the reasonable limits to assist you. My daughter loves the club and its staff, and loves the interaction and attention they provide every day.
We all think you’ve done a brilliant job with Cymer Ofal. My son loves going there and, as parents, we have been very happy with the free choice of activities, the healthy snacks and the overall organisation.
I’m very happy with Cymer Ofal – my son really enjoys the club and I think that the level of care, kindness and attention to detail shown by all of the staff is excellent. In all aspects of their care, a great deal of thought is given – from the games and toys provided, the environment and the food, which is varied, healthy and tasty. But what really shines out for me is the staff – without exception they show genuine care and kindness towards the children, which as a parent, is so important. On a few occasions when I have needed to change care days, they have always been willing to be flexible, and they are always approachable and happy to discuss a child’s needs.
My 6-year-old son has been attending Cymer Ofal after school club since he began primary school in 2013 and he absolutely loves his time there. He is happy and I have every confidence that he is being well-cared for at the end of the school day. Staff are friendly and approachable and I think it makes a big difference to my child that he is looked after by familiar faces from the school. As parents we have been very impressed how Clwb is constantly looking for ways to improve – introducing new activities, equipment and food and always keen to hear feedback from parents. Cymer Ofal is a fantastic after school club (we would be lost without it!) that I would have no hesitation in recommending it to other Treganna parents.
Mae’r gofal y mae ein mab yn ei dderbyn yn Cymer Ofal heb ei well. Mae o wrth ei fodd yn y clwb a mae’r ffaith fod y fath wasanaeth ar gael i ni rieni Ysgol Treganna yn amhrisiadwy – mae’n caniatau ni i fyw ein bywydau prysur gan wybod fod ein plant yn derbyn gofal mewn awyrgylch cyfarwydd, hapus a braf lle mae modd iddyn nhw chwarae yn ddiogel gyda’u ffrindiau a dod i adnabod ffrindiau newydd. Mae caredigrwydd staff Cymer Ofal a’u deallusrwydd o anghenion ein plant yn arbennig. Diolch yn fawr iawn am ddarparu y gwasanaeth pwysig hwn.
Mae dau o blant, un yn y dosbarth Derbyn a’r llall ym mlwyddyn 3 ac mae’r ddau wrth eu bodd yn mynychu clwb Cymer Ofal ar nos Fercher a nos Iau. Yn ogystal â threulio amser gyda’u ffrindiau mewn lle diogel a chyfarwydd, mae’r ddau yn cael nifer o brofiadau eang ac addas ac mae hyblygrwydd y gofal yn caniatáu iddynt hefyd fynychu clybiau yr ysgol a’r Urdd. Rydym yn gadael ein plant yn hyderus ac yn hapus yng ngofal y tîm.
Cymer Ofal have provided an excellent service for my son since the new Treganna has opened. In the summer he plays outside, knowing that at the right time he will be called in for his healthy snacks (his favourite is wraps, salsa and hummous). In the winter, he does all sorts of interesting things inside. Last week he came back, having been a part of a hairdressing salon for the younger children! The staff who run Cymer Ofal have fostered an atmosphere of fun and affection whilst also ensuring that good behaviour and respect for all is the norm. I would highly recommend Cymer Ofal to all parents looking for good quality after school child care.
Rydym yn hapus iawn gyda gwasanaeth Cymer Ofal ac mae ein bechgyn o hyd yn edrych ymlaen at fynd i’r Clwb.
Fel mam i ddau o blant sy’n mynychu Cymer Ofal, mae’r gwasanaeth yn amhrisiadwy i ni fel teulu. Gan ein bod yn gweithio llawn amser, mae cael casglu’r plant o’r clwb yn deimlad braf gan ein bod yn teimlo ein bod â rhyw gysylltiad â’r ysgol. Hefyd, gan fod rhai o aelodau staff y clwb yn gweithio yn yr ysgol, mae ganddynt adnabyddiaeth dda o’r plant. Mae trefniadau casglu’r plant yn hynod o drefnus ac mae gwybod fod y ddau mewn awyrgylch saff a diogel yn gysur mawr. Mae’r plant wrth eu bodd gyda’r bwyd sy’n cael ei gynnig iddynt a gan fod y ddau yn aml yn cludo bwyd oddi yno, mae’n amlwg fod y bwyd yn safonol gan ei fod yn codi awydd bwyd arnom ni fel rhieni!
Yr oedd y plant wedi gorfod mynychu clwb ar ôl ysgol arall ar dydd Mawrth gan nad oedd lle gyda Chymer Ofal. Cyn y Pasg, fe gawsom wybod y byddai lle i ni pe bawn ei angen. Pan gynigwyd hynny i’r plant, er eu bod yn cael gwers gymnasteg gyda’r clwb arall, doedd dim dwywaith mai Cymer Ofal enillodd eu pleidlais. Mae’r teganau/gweithgareddau sydd ar gael iddynt o safon uchel ac o ganlyniad, mae’r plant yn parchu’r ddarpariaeth ac yn canmol i’r cymylau. Mae’n siomedig ambell waith nad yw’r plant yn edrych yn rhy hapus i’n gweld ar ddiwedd diwrnod hir am ein bod wedi eu casglu’n fuan! Mae hynny’n brawf eto o’u hapusrwydd fel aelodau’r clwb. Heb amheuaeth, mae Cymer Ofal yn ddarpariaeth hanfodol ac yr ydym yn dymuno cefnogi’r clwb gydag unrhyw ddatblygiadau i’r dyfodol. Diolch unwaith eto am bopeth.
Mae gen i 2 blentyn (Bl.6 a Bl.4) sydd wedi mynychu Clwb Cymer Ofal ers iddo gael ei sefydlu. Mae’r ddau wrth eu boddau yno, ac yn cael y gofal gorau, bwyd iachus a llawer o brofiadau bendigedig. Mae’r staff yn ofalgar ac yn gofalu am les y plant. Mae’r clwb yn hynod o gyfleus ac yn adnodd gwych i rieni prysur sy’n gweithio. Diolch o galon.
Mae gen i dair o ferched sy’n mynychu clwb Cymer Ofal bedair noson yr wythnos ac sy’n gwbl hapus eu byd yno. O’r hyn a welaf wrth gasglu’r merched o’r clwb, mae’r staff yn meithrin awyrgylch cyfeillgar a chynnes, ond gan ddilyn rheolau clir a chadw trefn amlwg. Un elfen amlwg sy’n cynnal hapusrwydd a bodlonrwydd y plant yw’r gweithgareddau, offer a theganau helaeth ac amrywiol sydd gan y clwb i’w diddanu. Maent hefyd yn ymgymryd â chrefftau amrywiol er mwyn dathlu amryfal wyliau neu wahanol gyfnodau ar hyd y flwyddyn, ac mae’r plant yn amlwg yn browd iawn o’u creadigaethau! Mewn enghraifft o’r fath, mae’r clwb yn llwyddo i ategu ac ehangu addysg ddyddiol y plant. Hefyd, wrth gyrraedd y clwb ar ddiwedd pob dydd, mae’n amlwg bod nifer o’r staff yn cymryd rhan yn y gweithgareddau gyda’r plant, ac mae hyn eto yn ategu’r sgiliau cymdeithasol y mae’r plant yn eu datblygu.
Elfen bwysig arall yw’r bwyd y bydd y plant yn ei gael ar ôl cyrraedd y clwb, a gwn fod y fwydlen wedi newid yn rheolaidd, a hynny ar ôl ymgynghori â’r plant. Mae’n amlwg fod tipyn o ymgynghori’n digwydd rhwng y staff a’r plant, a hynny ar destun bwyd a gweithgareddau, ac mae hynny’n beth cadarnhaol iawn gan fod hyn yn gofyn i’r plant gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am eu hamser yn y clwb.
Ar lefel bersonol, rwy’n ddiolchgar iawn am hyblygrwydd y staff yng nghyswllt y ffaith fod dwy o fy merched yn mynychu clybiau eraill yn yr ysgol ar y cyd â mynychu clwb Cymer Ofal. Mae modd i’r merched rannu eu hamser ar ôl ysgol felly rhwng clwb Cymer Ofal a gweithgareddau eraill, ac rwy’n hynod werthfawrogol o’r ffaith fy mod i’n gwybod bod ganddynt y clwb i fynd yn ôl ato wedi iddynt orffen beth bynnag arall y byddant yn ei wneud, ac mae staff Cymer Ofal yn amlwg yn ymwybodol o’r trefniadau a hyd yn oed yn cadw bwyd iddynt pan fyddant wedi colli amser te yn y clwb.
Felly, i grynhoi, rwyf i, fel rhiant, yn hapus tu hwnt gyda’r gwasanaeth a gynigir gan Cymer Ofal, yn bennaf am fod sawl gwedd i’r elfen o ofalu—y diddanu, y bwydo, yr addysgu, y datblygu a’r cymdeithasu—a bod llawer yn cael ei gyflawni cyn 6pm bob nos! Yr hyn sy’n dweud y cwbl am y clwb i mi yw’r ffaith bod y merched yn dod allan bob nos â gwên ar eu hwynebau, ac yn rhoi stŵr i mi pan fyddaf yn eu casglu yn gynt na’r arfer!
Fel teulu rydym yn glir o’r farn bod Cymer Ofal yn darparu gofal o’r safon uchaf – does dim ond rhaid i fi edrych trwy’r ffenestri i weld hynny pan yn pigo fy mab i fyny. Mae fy mab yn hapus i fod yno, y teganau o safon uchel, a mwyaf pwysig, mae’ n amlwg bod Mrs Lord a’r staff wir yn ofalgar o’r plant.
Thank you so much for running the after school club. My son is so happy there because all the staff know him and take care of him so well. He enjoys the freedom that the club offers by providing him with such a choice of things to play with and an opportunity to play with older children too in a safe and happy environment. I am perpetually impressed by the quality of the food that he is given as a snack and I really appreciate the warmth and friendliness of the staff.
Mae fy mab my mlwyddyn 2 ac mae yn edrych mlaen i fynd i Cymer Ofal. Mae’r gweithgareddau yn ddiddorol, amrywiol ac yn hwyl. Mae’r bwyd yn iachus ac mae’r plant yn cael cyfle i helpu baratoi a gweini. Mae’r staff yn rhoi digon o gyfle i rieni roi eu barn a rhoi adborth ynghylch y gofal. Yn fwyaf oll mae y staff yn gyfeillgar iawn ac yn gofalu yn arbennig am y plant ac yn eu trin fel unigolion. Diolch i chi!
Dyma oedd ymateb ein merch neithiwr, ar ôl i ni ei chasglu; “Ond mami, dim ond nawr dw i’n dechrau chwarae…!” Hyn ar ôl 2awr o ‘chwarae’. Siarad cyfrolau yn fy marn i! O fy safbwynt i fel rhiant, nid oes modd nodi mewn geiriau pa mor braf yw’r tawelwch meddwl sydd ynghlwm â’r gofal a roir. Mae ymroddiad y staff yn ddi-flino. Sicrheir bod pob aelod yn ymgartrefu’n syth. Ceir amrywiaeth eang o weithgareddau tymhorol gan gynnwys rhith o deganau addysgiadol; a chynigir hyn mewn awyrgylch cyfeillgar, teuluol sydd yn hollbwysig i ni.
“Pam wyt ti ‘di dod i fy ôl i mor gynnar? Sa i’n barod i ddod adre to – fi’n joio!!” Dyma’r cyfarchiad sy’ fel arfer yn fy ngwynebu i pan ddof i ôl fy mhlentyn yn ddyddiol o glwb gofal Cymer Ofal, a dwi’n credu bod y frawddeg uchod yn crynhoi y cwbwl am y gofal, y gynhalieth, a’r cyfeillgarwch sy’n cael ei gynnig gan y clwb arbennig hwn.
I gychwyn, mae’r ffaith bod y clwb yn cael ei gynnal ar safle’r ysgol gan staff abl a thalentog sy’n gweithio yn yr ysgol, yn rhoi tawelwch meddwl i unrhyw riant – rydym yn gwybod na fydd angen tywys y plant oddi ar y safle a chroesi unrhyw ffyrdd prysur er mwyn cyrraedd canolfan arall gan bo’r cyfan yn digwydd oddi mewn I furiau’r ysgol. Rydym fel rhieni felly yn gwybod bod ein plant yn ddiogel ac yn medru mwynhau mewn amgylchfyd maent yn gyfarwydd ag ef. Ar ben hynny, mae’r plant yn adnabod y staff a’r staff yn adnabod y plant, ac mae hyn wedi sicrhau bod gan fy mab i ac amryw eraill dwi’n shwr, berthynas iachus, barchus â chyfeillgar nid yn unig â phob un aelod o staff Cymer Ofal ond gydag oedolion eraill.
O fy rhan i bu’r ffaith bod pob un aelod o staff y clwb hwn yn medru’r Gymraeg yn ffactor bwysig wrth i ni benderfynu ble byddai ein plentyn yn mynychu wedi i’r ysgol ddod i ben am y dydd gan ein bod ni’n dau yn gweithio tan 5 o’r gloch bob nos. Rwy’n ymwybodol nad oes gan glybiau gofal gweddill y ddinas yr allwedd a’r ffactor arbennig hwn sef bod pob un aelod o staff Cymer Ofal yn rhugl yn y Gymraeg ac yn ymfalchio yn eu Cymreictod. Oherwydd hyn darparir cyfleoedd gwych i’n plant wrth i ddiwylliant a thraddodiadau ein gwlad gael eu hyrwyddo yn anffurfiol oddi fewn i’r clwb – mae’r garden Santes Dwynwen, y faner a greuwyd a’r pice mân a fwytawyd i ddathlu Dydd Gwyl Dewi, yr anrheg a dderbyniais ar Sul y mamau yn dyst i hyn. Ond nid yn unig diwylliant Cymru a hyrwyddir yma, yn aml daw’r mab adre yn llawn bwrlwm gan ei fod wedi blasu rhyw fwyd arbennig o wlad arall gan bod y clwb wedi dathlu diwrnod neu wyl arbennig neu mae ‘di cael y cylfe i ddarlunio neu liwio llun sy’n portreadu rhyw agwedd o ddiwylliant unigryw – mae’r clwb yn sicrhau bod y plant yn cael cyfle i addysgu, i barchu ac i fwynhau traddodiadau a gwerthoedd gwledydd eraill sydd yn ei dro yn adlewyrchiad lawn o gymuned aml ddiwylliannol Ysgol Treganna.
Rwyf wedi gweld fy mab yn datblygu ac yn ffynnu yn y clwb gan ei fod yn cael cyfle nid yn unig i fwynhau amrywiol weithgareddau o gelf a chrefft, chwaraeon, coginio, darllen, chwarae gemau bwrdd ayb, ond caiff y cyfle i gymdeithasu ac i fagu perthynas â disgyblion eraill Treganna, boed yn hyn neu’n iau – eto mae hyn wedi cynorthwyo fy unig blentyn i ystyried anghenion eraill ac i fagu gwerthoedd moesol hanfodol mewn bywyd.
Mae clwb Cymer Ofal yn rhan hanfodol a phwysig o’n bywydau ni bellach oherwydd y rhesymau a nodwyd uchod, felly rwy’n mawr obeithio caiff y clwb hwn pob tegwch a chyfle i ddatblygu, i ehangu ac i ffynnu fel y caiff disgyblion eraill brofi yr un mwynhad ag y mae fy mab wedi’i dderbyn.
I have been absolutely blown away by the care, fun and support Cymer Ofal have provided for my son at their after-school club. It is testament to the childcare providers that my son always asks me to pick him us as late as possible because he enjoys his time at clwb so much.